Roedd hi wastad yn beryg, efallai’n debygol, y gallai’r llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan droi’n un amhoblogaidd. Ac er y prysurdeb cychwynnol welwyd yn ystod y diwrnodau cyntaf, ymddengys i mi y gallai droi’n andros o amhoblogaidd yn andros o gyflym.