Mae’r artist graffiti lleol Tee2Sugars (Tom Llewellyn) wedi creu murlun trawiadol ar wal adeilad yng nghanol tref Pontypridd, er mwyn dathlu pobol Rhondda Cynon Taf, sef bro’r Brifwyl eleni wrth gwrs.

Ynghyd â thad a merch, mae’r murlun yn cynnwys draig, Afon Taf, Castell Coch a Pharc Treftadaeth y Rhondda… a theitl ein hanthem genedlaethol, a gafodd ei chyfansoddi gan Evan a James James o Bontypridd.