Mewn erthygl ddiweddar yn yr Observer mae’r colofnydd Kenan Malik, wrth ddadansoddi gwaith yr awdur James Baldwin (fydda’n gant oed eleni), yn awgrymu fod hunaniaeth yn gallu esbonio neu ddiffinio pwy ydyn ni ac/ond hefyd ein caethiwo. Bu i Baldwin ymrafael â’r cwestiwn mawr yma drwy ei yrfa, fel rhywun croenddu a fudodd o America i Ffrainc ac sydd yn cyfaddef iddo ‘fethu casáu pobl gwyn’. Dof yn ôl bob amser at eiriau doeth Bob Marley yn ‘Redemption Song’: “only you can fre