Mae gan Gymru Brif Weinidog benywaidd am y tro cyntaf.

Ddydd Mawrth roedd Eluned Morgan yn fuddugol mewn pleidlais yn y Senedd i olynu Vaughan Gething.

Daw hyn wedi misoedd o ansicrwydd o ganlyniad i helyntion Vaughan Gething yn ystod ei amser yn Brif Weinidog.

Bu yn rhaid adalw’r Senedd yr wythnos hon i ethol Prif Weinidog newydd, gyda nifer o aelodau yn derbyn caniatâd i bleidleisio o dramor am y tro cyntaf erioed.