Wythnos gyntaf y gwyliau haf ac mae’r plant adref o’r ysgol. Mae sut i lenwi’r amser yn gwestiwn bydd llawer o rieni yn gofyn dros yr wythnosau nesaf! Mae’r drefn arferol yn llacio dros yr haf, heb orfod deffro’n gynnar ar gyfer yr ysgol – ond un peth dw i’n benderfynol bod y plant yn cadw ati yw darllen pob nos cyn mynd i’w gwlâu.