Dydw i ddim yn siŵr beth dw i’n meddwl am y Gemau Olympaidd. Maen nhw’n llenwi’r bwlch, sy’n dod ar ôl y Tour de France a chyn y tymor pêl-droed newydd. Ac maen nhw’n bendant yn hoelio llygaid y byd ar feysydd chwaraeon sydd ddim fel arfer yn cael llawer o sylw. Fel dw i’n ysgrifennu’r golofn yma, dw i’n gwylio ras canŵio, a bore ‘ma roeddwn i’n cefnogi tîm pêl-foli traeth Yr Aifft.