Iesgob! Mae’n amser mynd i’r blincin ‘Steddfod unwaith eto!

I ble’r aeth y deuddeg mis ers i ni grwydro’r tracfyrddau ym Moduan? Felly bant â ni i Bontypridd, gan edrych ymlaen at fwynhau peint a pizza am ‘chydig llai na morgais tŷ teras.

I dref sy’n fyd-enwog am Tom Jones (Delilah) ac Evan a James James (Hen Wlad fy Nhadau).