Mae apwyntiad Craig Bellamy yn rheolwr newydd tîm dynion Cymru yn un difyr. Rydw i’n falch iawn ei fod o wedi cael y swydd, ond rydw i’n rhyfeddu. Mae Bellamy wedi pechu lot o bobl yn y Gymdeithas Bêl-droed yma yng Nghymru dros y blynyddoedd, ond mae’n dda bod pobl wedi bod yn barod i ail-adeiladu pontydd. Mae’n mynd i fod yn her fawr i fod yn llwyddiannus gyda’r garfan bresennol, ond mae un peth yn sicr – ni fydd hi’n ddiflas.  Does neb yn gallu cwestiynu angerdd ac ymrwymiad Bellamy dros Gymru