Syniad Mam ydi’r cyfan. Ychydig ddyddiau i mewn i’r gwyliau, a’r glaw wedi gwneud swp llaith o’r holl obeithion a chyffro oedd wedi llenwi dyddiau ola’r tymor. Mae Eleri fach wedi gwylio Moana bedair gwaith; wedi llenwi tudalennau ar dudalennau efo lluniau o ddeinosoriaid a thylwyth teg a cheffylau; wedi darllen dau lyfr ac wedi chwarae digon o gemau ar yr ipad i wneud i Mam deimlo’n euog.