Bron i bedwar mis ers ei ethol yn Brif Weinidog Cymru, bu i Vaughan Gething gyhoeddi toc wedi un ar ddeg fore Mawrth ei fwriad i ymddiswyddo o’r rôl yr oedd mor “falch” ohoni.

Ond er ei fod yn rhoi’r ffidil yn y to, nid oedd yn ymddiheuro.

“I’r bobl yng Nghymru sydd yn edrych fel fi, llawer dw i’n gwybod sydd yn teimlo wedi eu cleisio yn bersonol ac yn poeni am y foment hon, dw i’n gwybod bod ein gwlad yn gallu bod yn well, ac angen bod yn well,” meddai b’nawn Mawrth yn y siambr.