Pa dîm pêl-droed ydych chi wedi bod yn cefnogi ym mhencampwriaeth yr Ewros?

Mae’n siom na wnaeth Cymru gymhwyso eleni ond gyda Craig Bellamy wrth y llyw rwyf yn hyderus y byddwn yn llwyddo i gyrraedd y bencampwriaeth yn 2028; bydd Cymru yn un o’r pum gwlad sy’n cynnal y gystadleuaeth ac mae dau le awtomatig ar gael.

Gan nad oedd Cymru yn y bencampwriaeth eleni wnes i fabwysiadu tîm cenedlaethol gwlad estron – sef yr Iseldiroedd.