Ymddiheuriadau lu am ddychwelyd unwaith eto at un o fy hoff bynciau trafod.

Bydd darllenwyr brwd Golwg yn cofio i mi sgwennu cryn dipyn am bolisi tai rhai misoedd yn ôl. Bûm yn cyfeirio, inter alia, at effaith y Land Compensation Act 1961 ar bris tai. Hwnna, yn fwy na dim, sydd wedi arwain at y ffaith bod 70% o bris tŷ newydd yn talu am y tir. Y cyfan wedi ei egluro yn y llyfr Home Truths.