Mae gan dîm pêl-droed dynion Cymru reolwr newydd.

Fe enillodd Craig Bellamy 78 o gapiau wrth arwain yr ymosod tros ei wlad, ac roedd yn chwaraewr angerddol a dadleuol ar brydiau.

Yma mae Rhys Owen, ein Gohebydd Gwleidyddol sy’n aelod ffyddlon o’r Wal Goch, yn ymateb i’r penodiad…

Ers i Robert Page gael ei ddiswyddo yn dilyn gemau cyfeillgar go drychinebus yn erbyn Gibraltar a Slovakia, mae’r haf wedi bod yn un o ddyfalu pwy fydd wrth y llyw wrth i ni chwarae Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddechrau mis Medi.

Osian Roberts? Thierry Henry? Ail gyfle i Giggs?

Ond na, Craig Bellamy fydd yn dychwelyd i Gymru i reoli’r tîm cenedlaethol.

Fel rhywun sydd wedi cynrychioli Cymru yn y gorffennol, a hynny efo’r ymrwymiad mae’r crys yn ei haeddu, dw i ddim yn amau dim am y gefnogaeth aruthrol fydd y Wal Goch yn dangos i un o feibion hynna’ tîm Gary Speed ymhen rhyw ddau fis.

Mae’r atgofion o’i yrfa ar y cae yn cynnwys gôl enwog mewn buddugoliaeth brin yn erbyn yr Eidal a chyfweliad cignoeth ar ôl colled yn erbyn y Ffindir, yn rhoi ffydd i mi fod yr FAW wedi gwneud y penderfyniad gorau oll, o ystyried yr opsiynau oedd ar gael.

Yr unig bryder sydd gennai yw bod ymrwymiad ac ymdrech ddim wedi bod yn farc cwestiwn dros y tîm yma, heblaw yn nyddiau olaf Rob Page.

Dros yr ymgyrch ddiwethaf i gyrraedd yr Ewros yn yr Almaen, heblaw gêm ofnadwy yn erbyn Armenia, roedd yr ymrwymiad i frwydro dros y crys yn glir i’w weld. Dydi hynny ddim wir wedi bod yn broblem yn mynd yn ôl at guro Andorra ar gychwyn yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2016.

Beth oedd yn glir, a hynny fwy na dim arall yn erbyn Armenia a Gwlad Pwyl, oedd tactegau gwael gan ystyried lefel y tîm oedden ni’n chwarae ar y cae.

Mae Bellamy, sydd heb reoli tîm dynion hyd yma yn ei yrfa, y math o apwyntiad sydd yn rhoi ffydd mewn un sydd â diffyg profiad fel rheolwr. Ond dw i yn barod i rannu’r ffydd.

Yn fwyaf diweddar yn Burnley mae’r Cymro wedi bod yn gweithio gyda Vincent Kompany, sydd bellach yn rheoli un o dimau mwyaf Ewrop yn Bayern Munich. Er mai disgyn allan o Uwch Gynghrair Lloegr wnaeth Burnley’r tymor diwethaf, roedd cynllun clir i’r ffordd yr oedden nhw’n chwarae, a hynny mewn ffordd fu’n ddeniadol i’r cefnogwyr.

Dw i ddim yn credu bod y pwynt yma o chwarae pêl-droed ‘deniadol’ fel tase ni yn ryw fath o Sbaen yn rhy bwysig, ond mae’r sefydlogrwydd o wybod y bydd mwy iddi gan Gymru nag eistedd yn ôl a cheisio taro timau gydag ymosodiad cyflym mewn ffordd ddiystyr, am gysuro cefnogwyr Cymru.

Sialens gyntaf Bellamy fydd canfod ffordd o gael y gorau o’n chwaraewyr mwyaf disglair, yn bennaf Brennan Johnson. Does ddim amheuaeth bod Brennan heb gyrraedd ei botensial yng nghrys coch Cymru eto.

Fel cyn-ymosodwr ei hun, fe fydd y dorf yn disgwyl i Craig Bellamy allu rhoi’r gwynt yn hwyliau Brennan Johnson fel bod y gôls yn llifo unwaith eto, fel y gwnaethon nhw mor gofiadwy gyda Gareth Bale.