Dim ond wrth i’r canlyniadau gyrraedd y daeth hi’n amlwg pa mor unplyg a digymrodedd yr oedd Llafur wedi bod wrth ymladd yn yr etholiad.

Roedden nhw wedi aberthu pleidleisiau yn eu cadarnleoedd er mwyn ennill seddi newydd ac ailadeiladu’r hen wal goch.

Y canlyniad oedd helfa anferth o seddi ond pleidlais wan – chwarae’r gêm yn ddeheuig yn ôl y rheolau ond aberthu unrhyw ymgais at fod yn ddeniadol neu greadigol.