Ddechrau’r wythnos roedd Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn glanio yn San Steffan, gan fachu ar y cyfle i ail-greu llun enwog.

Yn 1992 fe lwyddodd y Blaid, am y tro cyntaf yn ei hanes, i ennill pedair sedd yn y Senedd. Ac yn yr hen lun mae Cynog Dafis, Ieuan Wyn Jones, Dafydd Wigley ac Elfyn Llwyd.

Mae pedwar newydd yno erbyn hyn – Ben Lake, Llinos Medi, Liz Saville-Roberts ac Ann Davies. Y gwahaniaeth mawr yw bod y mwyafrif yn ferched y tro hwn.

Lluniau gan Arwyn Herald