Mae Jo Stevens yn bwriadu “cydweithio mewn partneriaeth” gyda Llywodraeth Cymru…

“Dwi mor falch o’r ffaith fy mod wedi cael fy ngeni a fy magu yng Nghymru, dwi’n falch o fod wedi gweithio yng Nghymru a nawr yn falch o gael bod y fenyw gyntaf o’r blaid Lafur i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.”

Dyna eiriau Jo Stevens wrth Golwg ddechrau’r wythnos wedi iddi gael ei phenodi i gynrychioli Cymru yng nghabinet y Prif Weinidog newydd, Keir Starmer.