Mae criw diwyd pentref bach yng Ngheredigion wedi codi degau o filoedd i ddal gafael yn eu hysgol. Ac mae hyder o’r newydd yn y gymdogaeth, yn ôl Euros Lewis…

Beth y’n ni wedi dysgu? Dyna oedd y cwestiwn wrth i ni gwrdd yn ddiweddar yn Ysgol Cribyn. Dros gyfnod o chwe wythnos – o ddiwedd Mawrth i ddechrau Mai eleni – fe lwyddodd y gymdogaeth fach hon o namyn 300 o bobol godi dros £70,000 tuag at y nod o brynu’r ysgol oddi wrth y cyngor sir.