Er mai dim ond mis Gorffennaf yw hi mae’r tymor pêl-droed newydd yn dechrau’r wythnos hon i bedwar clwb Cymreig sydd yn chwarae mewn cystadlaethau Ewrop. Dim ond pedwar clwb sydd yn cynrychioli Cymru eleni, ar ôl i ni golli un o’n llefydd oherwydd perfformiadau gwan y clybiau Uwch Gynghrair y llynedd.