Fe ysgrifennais i golofn am ddiffyg sitcoms ar S4C yr haf diwethaf. Wedi bod yn gwrando ar sgwrs banel yn yr Eisteddfod o’n i ac os cofia i’n iawn fe wnes i ryw led awgrymu y byddai sitcom gan un o’r panelwyr, Caryl Burke, yn syniad go-lew. Dw i’n cymryd dim clod rŵan fod hynny wedi digwydd, ond roeddwn i’n sicr yn croesawu RSVP.