Bu i Gymraes arloesi ym myd meddygaeth a gwleidyddiaeth yn yr Unol Daleithiau – ac mae galw iddi gael mwy o enwogrwydd yng Nghymru…

Yn yr hydref fe fydd digwyddiad yn y gogledd i goffáu un o ferched enwocaf talaith Utah, a’r seneddwraig gyntaf yn yr Unol Daleithiau – a oedd yn digwydd dod o Landudno.