Dydw i ddim yn debyg o sgrifennu’r tri gair yna eto ond, am unwaith, mae gan y cwac gwleidyddol bwynt.

Wrth herio’r farn boblogaidd ynghylch rhyfel yr Wcráin, mi wnaeth Nigel Farage ddau beth y mae’r pleidiau mawr wedi’u hosgoi yn ymgyrch yr etholiad – troi’r sylw at faterion tramor ac, yn ddamweiniol efallai, codi cwestiwn pwysig am agweddau at wrthdaro yn y byd.