Deng mlynedd yn ôl, dechreuodd Ffion Reynolds (Cadw) rywbeth arbennig iawn ym Mryn Celli Ddu ym Môn a’r dirwedd cyn-hanesyddol o amgylch y cofadail. Yn llythrennol fe agorodd Ffion y drysau er mwyn cynnig golwg ffresh, golwg gynhwysfawr ac eang o’r dirwedd yn ei gyfanrwydd. Roeddwn wedi cael gwahoddiad gan Ffion yn 2014 i arwain teithiau tywys o’r siambr gladdu a’r gwaith cloddio archeolegol cysylltiedig yn y caeau o amgylch Bryn Celli.