Yn dilyn fy ngholofn wythnos diwethaf, pan fynegais fy mod i’n dechrau cael llond bol ar yr ymgyrch etholiadol, dwi wedi ceisio troi fy niddordeb at bethau eraill a chuddio rhag gwleidyddiaeth am sbel. Mi wn i dros bwy y bydda i’n bwrw pleidlais, ac rwy’n gynyddol siŵr o’r canlyniad.