Fe gafodd yr orymdaith ddiweddara dros annibyniaeth i Gymru ei chynnal yng Nghaerfyrddin y Sadwrn diwethaf a’i hysbrydoli gan griw enwog o’r gorffennol, wrth i griw YesCymru ddod ynghyd yn y dref.

Un o’r digwyddiadau amlycaf yn hanes Merched Beca oedd gorymdaith fawr yng Nghaerfyrddin ym mis Mehefin 1843, lle gwnaeth miloedd o brotestwyr ymgynnull dan y faner “Cyfiawnder a Charwyr Cyfiawnder Ydym Ni Oll’.