Mae’r ymateb i benderfyniad Nigel Farage i sefyll yn yr etholiad yn dangos llawer o’r hyn sydd o’i le yn y byd gwleidyddol.

O’r hyn welson ni, wnaeth yr un newyddiadurwr hyd yn oed ofyn iddo fo sut yn y byd yr oedd un dyn yn gallu penderfynu bod yn bennaeth ar blaid wleidyddol ‘ddemocrataidd’ heb bleidlais na hyd yn oed drafodaeth.

Ond mae’n bosib y bydd Reform UK hefyd yn arwydd o broblem ddyfnach fyth; mi allen nhw ennill canran dda o’r bleidlais heb ennill yr un sedd.