Ar ddydd Llun olaf mis Mai roeddwn yn rhan o ddigwyddiad yng Ngŵyl y Gelli lle wnaeth Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru holi pedwar awdur sydd ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Doeddwn i ond yno am ychydig o oriau, a dyma’r tro cyntaf imi fynychu Gŵyl y Gelli. Ac er bod yr ŵyl ym Mhowys yn cael ei hadnabod fel ‘the Woodstock of the Mind,’ nid oeddwn wedi meddwl galw heibio o’r blaen.