Darllenais i’r wythnos yma bod Manchester United wedi arwyddo Cymro ifanc o Ipswich Town. Mae Silva Mexes yn 14 oed a doedd o ddim yn gyfarwydd i mi. Ond wrth ddysgu mai ei enw llawn yw Silva Mexes Tyler-Earnshaw, wnes i roi dau a dau efo’i gilydd a sylweddoli mai mab Robert Earnshaw yw’r bachgen. Yn ôl y sôn mae o’n gallu rhedeg 100m mewn 11 eiliad, sydd yn addawol iawn.