Roedd pawb wedi gobeithio y byddai tîm pêl-droed dynion Cymru ar y ffordd i’r Almaen ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2024 y mis hwn, ac mai cyfle i roi’r cyffyrddiadau olaf i’r paratoadau a chadarnhau’r garfan derfynol a fyddai dwy gêm gyfeillgar tros y dyddiau nesaf.