Mae’n cyrraedd y pwynt lle mae’r ymgyrch etholiadol wedi bod yn berwi ers pythefnos, ac mae hi o leiaf wedi bod yn lled-ddifyr. Roedd yr wythnos gyntaf yn drychineb lwyr i’r Torïaid, o Sunak yn galw’r etholiad yn y glaw i ofyn i stafell o Gymry a oedden nhw’n edrych ymlaen at bencampwriaeth yr Euros, a chymryd y dydd Sadwrn canlynol fel gwyliau.