Ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, mae’r neges yn gyson ei bod hi’n amser am newid.

Yr arolygon barn ddiweddaraf yw’r baromedr cyntaf o sut mae’r pleidiau gwleidyddol wedi bod yn perfformio yn ystod yr ymgyrch.

Fel sydd wedi ei ddatgelu ambell waith yn Golwg, ac mewn amryw o gyfryngau eraill, nid yw’r Torïaid wedi cael y cychwyn gorau i’w hymgyrch.