Ers mis bellach, mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwersylla o flaen y coleg. Galw y maent ar y coleg i roi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau sydd â chysylltiadau efo Israel.

Gyda 36,000 o bobl Palestina wedi eu lladd mewn saith mis, gofidiwn yn ddwys am yr hil-laddiad, a’r ffaith fod pob prifysgol yn Gaza wedi ei dinistrio. Beth fedrwn ni ei wneud i gefnogi galwad myfyrwyr Bangor?