Mae tri mis bellach ers i Radio Cymru 2 gynyddu ei horiau darlledu i 60 awr yr wythnos. Yn bersonol, dw i dal i wrando mwy ar Radio Cymru ond rhaid dweud fod Radio Cymru 2 yn fwy ar fy radar i erbyn hyn. Os oes yna sgwrs ddiflas neu gân dw i ddim mor hoff ohoni ar y brif orsaf, fe wna i droi at y llall i glywed beth sydd yn digwydd yno.

Dw i wedi gweld ambell un yn cwyno am y gyfran o ganeuon Saesneg sydd ar yr ail orsaf ac mae yna’n sicr beth sail i’r fath bryderon. Wedi dweud hynny – a thystiolaeth anecdotaidd yn unig sydd gen i – ond dw i’n gwybod bod yna wrandawyr na fyddai’n gwrando ar Radio Cymru fel arfer yn eithaf hoff o’r arlwy canol y ffordd ddwyieithog sydd i’w gael ar Radio Cymru 2. A honno yw’r ddadl am wn i, os yw’r orsaf yn denu gwrandawyr newydd ac yn eu cyflwyno i beth cerddoriaeth Gymraeg, yna nid oes llawer o ots beth yw barn gwrandawyr mwy traddodiadol Radio Cymru, fel fi.

Un peth ydi caneuon di-Gymraeg ond peth arall yw rhaglenni wedi eu cyflwyno’n gyfan gwbl Saesneg! Mae yna un rhaglen ar Radio Cymru 2 lle nad yw hi’n ymddangos fod llawer o ots am y Gymraeg o gwbl. “Tiwns, tiwns, tiwns wedi eu dewis gan enwogion Cymru” yw’r disgrifiad o Dewis, a’r syniad digon syml yw bod unigolyn yn curadu awr o restr chwarae. A’r hyn maen nhw’n ei olygu gydag “enwogion Cymru” yn amlach na dim yw rhywun sydd wedi bod ar raglen realaeth Brydeinig.

Dw i wedi gwrando’n ddiweddar ar ddewis y bersonoliaeth cyfryngau cymdeithasol Laura Orgill a chyn-enillydd Love Island Liam Reardon. Cyflwynwyd y rhaglenni hynny’n ddwyieithog ac mae hynny’n iawn, roedd yna ymdrech o leiaf.

Ond wn i ddim beth i’w ddweud am Dewis Andrew Jenkins o’r rhaglen Traitors. Fe gyflwynodd o’i restr chwarae yn gyfan gwbl uniaith Saesneg, heb na ‘shwmae’ neu ‘ddiolch’ tocenistaidd hyd yn oed! Ac nid yn unig hynny, roedd hi’n amlwg nad oedd ganddo ddim byd i’w wneud â dewis y caneuon Cymraeg ar y rhestr ’chwaith. Roedd o’n cyfeirio at ei ganeuon fel y gyntaf, yr ail a’r drydedd ac yn y blaen, ond yn anwybyddu’r rhai Cymraeg a oedd bob yn ail â’r rhai Saesneg, ac yn amlwg wedi cael eu hychwanegu gan rywun arall wedyn. Fel pe bai’r caneuon Cymraeg, yn llythrennol, ddim yn cyfrif!

Dyma un o’r pethau rhyfeddaf i mi ei weld neu’i glywed ers dechrau ysgrifennu’r golofn yma dw i’n meddwl. Roedd hi’n amlwg fod yr awydd i roi sylw i raglen deledu Saesneg eithriadol o boblogaidd wedi cael blaenoriaeth dros unrhyw egwyddor ieithyddol. Gofynion Ofcom yw bod 50% o gerddoriaeth Radio Cymru 2 yn Gymraeg ac yn hynny o beth ni chafodd unrhyw reol ei thorri yma. Ond os ydi rhaglen gerddoriaeth ddwyieithog sy’n cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhaglen radio Gymraeg, yna mae rhaglen gerddoriaeth ddwyieithog sy’n cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg yn rhaglen radio Saesneg.

Peth arall yr hoffwn ei weld yw mymryn mwy o hyblygrwydd pan fydd arlwy’r ddwy orsaf yn hollti. Roedd wythnos Eisteddfod yr Urdd yn enghraifft berffaith o hynny. Rhyw bicio yn ôl ac ymlaen i’r Eisteddfod a wnaeth y ddwy orsaf yng nghanol eu hamserlenni arferol yr wythnos diwethaf. O ganlyniad roeddech chi’n cael cyfuniadau digon od fel yr enghraifft yma o raglen Lauren Moore nos Wener; y gân ‘Mama’ gan Jonas Blue a William Singe, yn cael ei dilyn gan ychydig o’r Llefaru Unigol Bl. 10 a dan 19 oed, ac yna ‘Noson Arall yn y Ffair’ gan Ystyr a Mr Phormula.

Dichon y byddai’n well gan eisteddfodwyr pybyr wrando ar y llefaru unigol yn ei gyfanrwydd ac y byddai’n well gan wrandawyr arferol Lauren Moore wrando ar gerddoriaeth bop di-dor. Gyda dwy orsaf, mae’r opsiwn yno i gyflawni hynny siawns?