Mae yna haf o gliter, pop, sodlau a harmonïau melys o flaen Cymru eleni wrth i’r grŵp poblogaidd EDEN ryddhau eu halbwm gyntaf ers 25 mlynedd…

Daw’r albwm Heddiw yn dynn ar sodlau pedair sengl sydd wedi creu cynnwrf ymysg y super ffans EDEN dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Y cyntaf ohonyn nhw oedd ‘Caredig’, a gafodd 40,000 o wrandawiadau o fewn ei 24 awr gyntaf!