Ar wahân i awgrym cwbl anghywir fod Cymru yn rowndiau terfynol yr Ewros, dyw’r hen wlad ddim wedi achosi crych yn nyfroedd yr Etholiad Cyffredinol. Ac felly, beryg, y bydd hi.

O feddwl, efallai nad camgymeriad oedd camsyniad pêl-droedaidd Rishi Sunak; efallai nad oedd o wedi sylweddoli bod gan Gymru dîm ar wahân neu ei fod yn cymryd y byddai’r Cymry i gyd yn cefnogi Lloegr.