Ar ddiwrnod cyhoeddi’r etholiad cyffredinol, roedd yna ffiws wedi cael ei thanio ar y Fam Ynys hefyd.

Gwelwyd Rishi yn cyhoeddi’r lecsiwn ar bnawn Mercher glawog ganol mis Mai – ond roedd cyhoeddiad arall wedi bod y bore hwnnw, sef bod Llywodraeth Prydain yn bwriadu cael ail atomfa ar yr Wylfa.

Dywedodd Claire Coutinho, Ysgrifennydd Diogelwch Ynni a Net Sero y Deyrnas Unedig, mai dyma fyddai’r “estyniad mwyaf i ynni niwclear ers 70 mlynedd”.