Mi fydda rywun yn cymryd yn ganiataol fod cynnig cyfleon i bobl ifanc ehangu eu gorwelion, meithrin eu doniau a magu cymeriad yn beth da.

Ond mae hi’n dibynnu pwy sy’n gwneud y cynnig, yn ôl yr hyn rydan ni wedi’i weld yr wythnos hon.

Yn hollol haeddiannol, mae Urdd Gobaith Cymru wedi ei brolio am roi’r cyfle i dros gan mil o blant a phobol ifanc gystadlu yn y Steddfod, ar bopeth o’r canu a’r actio i’r arlunio a’r pwytho.