Yn ei nofelau mae Mair Wynn Hughes wedi trafod cyffuriau, anorecsia a rhyw, a dementia sydd dan sylw yn ei llyfr newydd…

Mae’r enw Mair Wynn Hughes yn canu cloch swynol iawn ym meddyliau nifer o bobol a oedd yn ddarllenwyr brwd yn eu harddegau. Awdur dros 100 o lyfrau, ac un sydd wedi ennill llu o wobrau am ei gwaith.