Wrth erfyn ar Loegr i wario mwy ar arfau a’u byddin er mwyn ein hachub oll rhag y Rwsiaid, bu i Jason Morgan (‘Gwario ar arfau yn angenrheidiol’, Golwg 18/04/24) frolio gallu Ffrainc i weithredu’n filwrol ar eu pennau eu hunain yn llawer gwell na ni Deyrnas Unedigwyr. Daeth enghraifft sydyn i gefnogi’r pwynt wrth i Galedonia Newydd, un o drefedigaethau Ffrainc, weld y gallu hwn wrth i’w milwyr lanio.