Ddydd Llun fe fydd miloedd o blantos a’u rhieni yn heidio am Steddfod yr Urdd draw ym Meifod ym mwynder Maldwyn.

Mae dros 100,000 wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl eleni, ac mi fydd yna hen ganu, dawnsio ac adrodd ar y Maes.

Dyma’r tro cyntaf i dros gan fil gystadlu ac yn amlwg mae Cyfarwyddwr Celfyddydau’r mudiad ar ben ei digon.