Mae dwy Gymraes yn profi llwyddiant trawiadol wrth deithio ar gyflymder o dros 100km yr awr mewn bobsled. Meilyr Emrys sydd â’r hanes…
Roedd misoedd cyntaf y flwyddyn hon yn rhai bythgofiadwy i ddwy Gymraes sy’n rhan o garfan bobsled Prydain.
Ar y rhew, yn hytrach na’r eira, y sicrhawyd llwyddiant gaeafol Cymreig mwyaf trawiadol haf bach Mihangel mis Mawrth, a hynny yn nhalaith Efrog Newydd ble gorffennodd Adele Nicoll (o’r Trallwng) a Kya Placide (o Gaerdydd) yn ail yn rownd olaf Cwpan Bobsled y Byd 2023-24, ar drac Lake Placid. Hwnnw oedd y canlyniad gorau gan ddeuawd benywaidd o Brydain ar y gylchdaith rasio slediau fyd-eang ers i Nicoll ennill medal arian – ochr yn ochr â’r Saesnes, Mica McNeill – yn Sigulda, Latfia, ar 2 Ionawr 2022. Ond braciwr, yn hytrach na pheilot, oedd y Gymraes ddwy flynedd yn ôl ac un o’r prif elfennau sy’n gwneud ei gorchest ddiweddar yng ngogledd ddwyrain yr Unol Daleithiau yn un mor nodedig yw’r ffaith ei bod hi wedi llwyddo i sicrhau’r fath ganlyniad er gwaethaf ei diffyg profiad fel llywiwr bobsled. Yn wir, nid oedd Nicoll erioed wedi gyrru sled o unrhyw faint mewn ras ar y lefel uchaf tan 15 Rhagfyr y llynedd.
Yn fwy rhyfeddol, mae llai na blwyddyn ers i Placide ddechrau ymhél â’r gamp aeafol o gwbl. Yn ystod haf 2023 y cychwynnodd hi ymarfer gyda Thîm Bobsled Prydain ac felly nid oedd y ferch 19 oed erioed wedi rasio ar y rhew cyn y tymor sydd newydd ddod i ben. Ond llai na phedwar mis wedi iddynt gystadlu fel deuawd am y tro cyntaf, rhuodd y Cymry i lawr ‘camlas iâ’ Mynydd Van Hoevenberg ddwywaith, gan gofnodi amser cronnus oedd yn gyflymach na’r pencampwyr byd ac Olympaidd Almaenig presennol a dim ond dau gymal meistrolgar gan Kim Kalicki a Leonie Fiebig (sydd hefyd yn dod o’r Almaen) wnaeth eu rhwystro rhag gorffen ar frig y podiwm.
Nid lwc mul oedd wrth wraidd y canlyniad syfrdanol hwn, serch hynny, oherwydd mae partneriaeth Nicoll a Placide wedi blodeuo ar gyflymder sy’n ymylu ar fod yn anghredadwy, ers iddynt orffen yn drydydd a phumed mewn dwy ras Cwpan Ewropa yn Norwy, ar ddechrau mis Rhagfyr y llynedd. Yn anhygoel, hawliodd y ddeuawd Gymreig fuddugoliaeth ar drac enwog St. Moritz-Celerina, yn y Swistir, ar eu hymddangosiad nesaf ar gylchdaith eilaidd yr IBSF ac yn sgil y llwyddiant hwnnw – sef y tro cyntaf i griw bobsled Prydeinig ennill ras ail haen ers 2017 – dyrchafwyd Adele a Kya i gystadlu ar gylchdaith Cwpan y Byd am weddill y tymor: lai na deufis wedi iddynt fwrw eu swildod fel tîm ar yr un trac, gorffennodd y Cymry yn unfed ar ddeg yn Lillehammer, ar ddydd Sul olaf mis Ionawr.
Pum diwrnod yn ddiweddarach – gyda Willa Gibb yn cymryd lle Placide fel braciwr – sicrhaodd Nicoll y nawfed safle yng nghymal nesaf y gylchdaith fyd-eang, yn Sigulda. Ond ni chafodd y ferch o’r Trallwng gymaint o hwyl arni pan gynhaliwyd Pencampwriaeth Ewrop yn yr un lleoliad: gyda Kya wedi dychwelyd i’r sedd gefn, methodd y Cymry orffen y ras honno, gan i’w sled gael ei thaflu wyneb i waered yn ystod y cymal cyntaf. Yn ffodus, llwyddodd y ddwy i ddianc o’r ddamwain heb ddioddef unrhyw anafiadau difrifol: canlyniad gwyrthiol, o ystyried eu bod yn symud ar gyflymder o dros 100km yr awr pan drodd eu cerbyd.
Yn dilyn eu hanffawd yn Latfia, cystadleuaeth ryngwladol nesaf Nicoll a Placide gyda’i gilydd oedd Pencampwriaeth y Byd 2024, ar drac Winterberg, yng ngorllewin yr Almaen. Gan adlewyrchu’r drefn sy’n cael ei dilyn yn y Gemau Olympaidd, cynhaliwyd y ras honno dros bedwar cymal, oedd wedi eu rhannu’n gyfartal dros ddeuddydd ar ddechrau mis Mawrth. Gorffennodd y pâr Cymreig uchafbwynt y tymor bobsled benywaidd yn yr unfed safle ar ddeg, cyn rhoi coron ragorol ar eu gaeaf cyntaf fel partneriaeth yn Lake Placid, dair wythnos yn ddiweddarach.
Adele yr athletwraig
Ochr yn ochr â’i doniau ar y rhew, mae Adele Nicoll hefyd yn athletwraig gwerth ei halen. Â hithau eisoes wedi cael ei choroni’n bencampwraig taflu pwysau Cymru ar naw achlysur, hawliodd ei medal aur Brydeinig gyntaf yn y gamp honno ddwy flynedd yn ôl, cyn amddiffyn ei theitl ym Mhencampwriaethau Athletau (Awyr Agored) y Deyrnas Gyfunol y llynedd. Hi hefyd yw deiliad presennol pencampwriaeth taflu disgen Cymru a chafodd gyfle i wisgo fest goch ei gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022, pan orffennodd yn wythfed yn rownd derfynol y taflu pwysau yn Stadiwm Alexander, Birmingham.
Yn wir, oherwydd ei gallu fel taflwr y cafodd Nicoll gyfle i ddechrau ymwneud â bobsledio yn y lle cyntaf: wedi i Mica McNeill weld clipiau fideo o’r Gymraes yn ymarfer a chadw’n heini ar y cyfryngau cymdeithasol – ac awgrymu bod ganddi’r doniau athletaidd delfrydol i fod yn fraciwr – gwahoddwyd hi i roi cynnig ar wthio sled ar drac artiffisial tîm Prydain, ym Mhrifysgol Caerfaddon, ym mis Awst 2020. Yn dilyn treial llwyddiannus, treuliodd Adele y gaeaf canlynol yn mireinio ei chrefft newydd – gan hefyd golli dros dair stôn – cyn dechrau cystadlu’n rhyngwladol yn ystod tymor 2021-22.
Dim ond unwaith yn flaenorol oedd Nicoll wedi cymryd rhan mewn ras Cwpan y Byd, cyn iddi hi a McNeill sicrhau’r canlyniad gorau gan unrhyw bâr benywaidd Prydeinig ar y gylchdaith ers tair blynedd ar ddeg (drwy orffen yn ail yn Sigulda) ac yn sgil hynny, bu bron i’r ferch o’r canolbarth gael cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf y mis canlynol. Cafodd ei dewis fel eilydd ar gyfer y ras fawr ar drac Yanqing ac felly teithiodd i ogledd ddwyrain China fel rhan o garfan Prydain, oedd hefyd yn cynnwys dau lithrwr Cymreig arall, sef y rasiwr sled sgerbwd, Laura Deas, a’r Cymro Almaenig, Rupert Staudinger (a orffennodd yn drydydd ar hugain yn y luge unigol i ddynion yn y dwyrain pell). Bythefnos ar ôl gemau Beijing, cychwynnodd Adele gymal nesaf ei hesblygiad fel athletwr gaeafol, drwy fynychu ysgol yrru bobsled yn Lake Placid.
Y Seintiau Newydd ar y sled
Yn yr un modd, ei doniau fel athletwraig wnaeth agor y drws at fobsledio i Kya Placide hefyd. Ond ar y trac – yn hytrach na’r maes – mae’r ferch o Gaerdydd yn cystadlu yn ystod misoedd yr haf a gwibio dros 100m yw ei harbenigedd. Daeth i adnabod Nicoll wrth ymarfer gyda hi’r haf diwethaf – wedi i’r taflwr-beilot benderfynu bod angen iddi ‘wneud rhywbeth am ei chyflymder’ cyn dechrau’r tymor rasio slediau newydd – ac arweiniodd hynny at wahoddiad i Kya drio’r gamp aeafol yng Nghaerfaddon. Mwynhaodd Placide’r profiad cychwynnol hwnnw’n fawr ac mae ei chyfeillgarwch eginol flaenorol gyda ei chyd-Gymraes bellach wedi datblygu i fod yn bartneriaeth athletaidd lwyddiannus. Er mai o dan faner Prydain mae’r ddwy yn cystadlu’n rhyngwladol, mae eu Cymreictod yn cael ei arddangos yn glir wrth iddynt wibio i lawr ‘camlesi iâ’ y byd, gan fod eu sled wedi ei haddurno gyda’r ddraig goch a bathodyn clwb pêl-droed y Seintiau Newydd (sydd wedi bod yn noddi Adele ers 2022).
Ochr yn ochr â llywio’r sled ddwbl, mae Nicoll hefyd yn cystadlu mewn rasys monobob. Yn wir, canolbwyntiodd yn benodol ar rasio’n unigol yn ystod ei gaeaf cyntaf fel peilot, gan sicrhau cyfres o ganlyniadau addawol cychwynnol yn y cerbyd llai ar gylchdaith Cwpan Ewropa. Parhaodd i fwynhau llwyddiant mewn cystadlaethau monobob ‘ail haen’ yn ystod rhan gyntaf y tymor diweddaraf hefyd. Wedi iddi hawlio’r pedwerydd safle yn nwy ras unigol agoriadol y gylchdaith gyfandirol yn Lillehammer, darparodd dystiolaeth bellach o’i chynnydd di-baid fel peilot, drwy orffen ar y podiwm am y tro cyntaf yn St. Moritz-Celerina ym mis Ionawr, y diwrnod cyn iddi ennill y gystadleuaeth gyfatebol ar gyfer slediau dwbl, gyda Placide, ar yr un trac.
Erbyn hynny, roedd Adele eisoes wedi cymryd rhan mewn rasys monobob ar gylchdaith Cwpan y Byd am y tro cyntaf, gan orffen yn bymthegfed ac yna’n nawfed yn y ddwy gystadleuaeth lefel uchaf a gynhaliwyd ar drac Igls, ger Innsbruck, ychydig cyn y Nadolig ac yna ddegfed yn St. Moritz-Celerina, ar y penwythnos cyn y ras Cwpan Ewropa yn yr un lleoliad. Wedi hynny, roedd y Gymraes yn bymthegfed eto yn Lillehammer ar ddiwedd mis Ionawr ac yn unfed ar ddeg pan ymwelodd y brif gylchdaith ryngwladol â Sigulda wythnos yn ddiweddarach. Bedair awr ar hugain cyn ei chanlyniad ardderchog gyda Placide yng ngogledd America, caeodd Nicoll ben y mwdwl ar ei thymor yn y sled unigol, drwy hawlio’r degfed safle yn y ras monobob yn Lake Placid. Â hithau hefyd wedi gorffen yn nawfed ym Mhencampwriaeth y Byd ar gyfer slediau bychain eleni – gydag amser cronnus oedd ddim ond ychydig dros eiliad yn arafach nag enillydd y fedal efydd (wedi pedwar cymal) – mae’n deg dweud bod y dyfodol yn argoeli’n dda i’r ferch o’r Trallwng, boed hynny fel slediwr unigol, neu fel rhan o ddeuawd.
O ran hynny, mae Nicoll a Placide eisoes wedi gosod eu bryd ar ymryson am fedalau Olympaidd yn Chwefror 2026, gydag Adele yn datgan yn ddiweddar mai sicrhau ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer gemau Milano-Cortina yw ei ‘phrif flaenoriaeth’ ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Os bydd hi a Kya’n cyflawni’r nod hwnnw – ac yn dal i gydweithio fel uned mewn deunaw mis – hwy fydd yr ail dîm cyfan gwbl Gymreig i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf. Criw bobsled oedd yr unig enghraifft flaenorol hefyd, sef Jackie Price (o Bontypridd) a’r diweddar Malcolm ‘Gomer’ Lloyd (o Abertawe), a orffennodd yn ugeinfed yn y gystadleuaeth i slediau dau-ddyn yn gemau Innsbruck, ym 1976.