“Rwyf wir yn becso oherwydd mae’r blaid yn sôn am breifateiddio iechyd, cefnogi arfau niwclear…”
Yn rhywun sydd yn crynhoi ei gwleidyddiaeth fel “sosialydd sydd yn gymunedol ac yn rhyngwladol,” mae’r Aelod Seneddol Llafur Beth Winter wedi bod yn barod i ddweud ei dweud a siarad yn blaen am wleidyddiaeth yn y blynyddoedd diweddar.
Mae’r blynyddoedd sydd wedi dilyn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019 wedi gweld newid mawr yn y Blaid Lafur. ‘Ta-ta’ oedd hi i Corbyn, McDonnell a’r weledigaeth o Brydain Sosialaidd, a ‘helo’ i Starmer, Rayner a’r Blaid Lafur fwy cymedrol a chanolig.
I aelodau sosialaidd fel Beth Winter sydd ar asgell chwith y blaid ac eisiau gweld newid radical i’r systemau maen nhw yn weld fel canolbwynt anghyfiawnder, nid yw Starmer a’i weledigaeth o wleidyddiaeth sydd, yn eiriau ei hun, yn pwysleisio “sefydlogrwydd fel newid” yn ddigonol.
Ar hyn o bryd mae Beth Winter yn cynrychioli Cwm Cynon, ond mi fydd yr etholaeth yn diflannu adeg yr etholiad cyffredinol nesaf wrth i nifer y seddi Cymreig yn San Steffan grebachu o 40 i 32.
AS presennol Merthyr Tudful, Gerald Jones, sydd wedi ennill yr hawl i fod yn ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholaeth newydd, Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf.
Yn ôl Beth Winter, roedd yr etholiad mewnol i ddewis Gerald Jones fel yr ymgeisydd yn un “annheg” ac yn “annemocrataidd” ar ôl proses lle doedd dim cyfarfodydd hystings wyneb i wyneb, a bod yr holl broses wedi yn un “sydd wedi cael ei ruthro trwy.”
“Dwi ddim yn defnyddio’r gair ethol, cafodd ei ddewis fel yr ymgeisydd,” meddai Beth Winter am y broses wrth Golwg.
Bu yn pwyso ar Bwyllgor Gwaith Llafur Cymru am gynnal ymchwiliad annibynnol i mewn i’r hyn ddigwyddodd, ond ofer fu.
Nid hi yw’r unig aelod seneddol Llafur o asgell chwith y blaid sydd wedi codi pryderon am y broses fewnol o ethol ymgeiswyr.
Mae Sam Tarry AS, a oedd wedi helpu trefnu ymgyrch arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, hefyd wedi cwyno am “rigio pleidlais” wrth bapur newydd The Guardian ar ôl iddo golli allan ar y siawns i fod yr ymgeisydd yn Ne Ilford mis diwethaf.
Y gŵyn yw bod criw Keir Starmer yn ffafrio gwleidyddion saffach y tir canol, ac am gael gwared ar unrhyw Sosialwyr allai ei farnu am fethu bod yn ddigon beiddgar.
Yn ôl Beth Winter mae nifer o wleidyddion yn San Steffan yn bobl sydd yn canolbwyntio yn ormodol ar eu gyrfaoedd personol, yn hytrach nag ar y gymuned sydd wedi eu hethol. At hyn, meddai, “mae’r system angen newid yn gyfan gwbl”.
Cymuned yw popeth
Daw yn glir fel cloch wrth siarad â Beth Winter bod ei chymuned hi a chymunedau ledled Cymru wrth galon yr hyn y mae hi’n sefyll drosto yn wleidyddol.
Ddechrau’r mis roedd yr Aelod Seneddol gafodd ei hethol i gynrychioli Cwm Cynon yn 2019 gyda mwyafrif o bron i naw mil o bleidleisiau, wedi dod fyny i rali ‘Deddf Eiddo – Dim Llai’ Cymdeithas yr Iaith ddechrau’r mis ym Mlaenau Ffestiniog.
“Yr unig ffordd rydym am newid pethau yw trwy ein gwaith yn y cymunedau,” meddai wrth Golwg ar ôl annerch torf o gannoedd yn Ffestiniog.
“Mae pethau fel yr orymdaith heddiw yn angenrheidiol er mwyn adeiladu o’r gwreiddiau.
“Rydym wedi gwneud shwt gymaint ynglŷn â’r undebau yn ein hanes ni fel cenedl, yn enwedig yn y de.
“Mae rhaid i ni adeiladu ar symudiadau fel yr orymdaith heddiw a gwaeddi yn uchel am bob peth sy’n fendigedig am Gymru.”
A hithau wedi ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon, mae’r ardal yn meddwl y byd iddi – ac mae’n dweud ei fod wedi gallu helpu’r lle ers cael ei hethol yn 2019.
“Dwi’n credu mai’r prif beth rwy’n falch ohoni yw adeiladu’r gymuned. Rydym wedi gwneud lot o gwmpas cyfoeth cymunedol ac wedi sefydlu’r Cyngor Undebau yng Nghwm Cynon,” meddai.
“Hefyd, i raddau, rhoi Cwm Cynon ar y map lan yn San Steffan.”
Ond tu hwnt i’r senedd yn Llundain, mae Beth Winter yn poeni nad yw pobol yn malio am wleidyddiaeth.
“Mae’r niferoedd o bobl sy’n pleidleisio yn becso fi yn fawr fawr iawn, mae hi’n glir bod yna ddiffyg democrataidd enfawr.
“Dyma un o’r problemau mwyaf sydd gennym ni, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y Deyrnas Unedig.”
Yn wir, nid yw’r niferoedd sydd yn pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol heb godi dros 70% ers troad y mileniwm, ac nid yw etholiadau Senedd Cymru erioed wedi gweld dros 50% yn bwrw pleidlais. A rhyw 17% bleidleisiodd yn yr etholiadau Comisiynwyr Heddlu diweddar.
“Mae’r niferoedd o bobl sydd yn gweld gwleidyddiaeth fel rhywbeth pwysig i’w bywydau nhw, a rhywbeth lle mae eu lleisiau yn gallu cael effaith, yn anffodus, ddim digon uchel,” meddai.
Yn ôl Beth Winter, mae yna fai ar y Blaid Lafur am gyfrannu at y difaterwch hwn ymysg pobl asgell chwith sydd nawr yn gyn-aelodau o’r blaid.
“Mae llawer o bobl wedi gadael y Blaid Lafur ac wedyn yn meddwl: ‘Does yna ddim lle i fi’. Ac mae rhaid i ni droi hyn o gwmpas a dweud wrth bobl: ‘Mae yna le i chi lle mae sosialaeth dal yn bwysig.”
Yn ôl Beth Winter mae “dyletswydd” ar bobl o’r asgell chwith i greu “mudiad sosialaidd” trawsbleidiol i wrthwynebu pleidiau fel Reform UK.
“Becso am y Blaid Lafur”
“Rwy’n becso ar hyn o bryd am y Blaid Lafur,” meddai Beth Winter yn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â sut beth fydd llywodraeth dan arweinyddiaeth Keir Starmer.
“Mae’r Blaid Lafur wedi symud i’r dde, ond mae dal angen lleisiau cryf sydd yn sosialaidd, ond mae hynny’n anodd.
“Rwyf wir yn becso oherwydd mae’r blaid yn sôn am breifateiddio iechyd, cefnogi arfau niwclear, ac mae safbwynt y blaid ar Balestina wedi bod yn rhywbeth dw i ddim yn gallu cytuno efo o gwbl.”
Mae Palestina wedi bod yn bwnc llosg sydd wedi creu rhaniadau o fewn y Blaid Lafur, sydd i ryw raddau wedi amlygu’r tensiwn rhwng asgell chwith y blaid a’r canol/dde, a hynny yn gyhoeddus.
“Sa i yn deall pam mae unrhyw gweryla o fewn y blaid pan mae’r gelynion yn y blaid Geidwadol,” meddai Beth Winter gan drafod y ffordd mae aelodau asgell chwith wedi cael eu gwthio i’r ymylon ac allan o’r blaid.
Yn ei barn hi, mi’r oedd Llafur Jeremy Corbyn yn fwy tueddol o ddeall sefyllfa gyfansoddiadol Cymru, ac efallai yn fwy parod i wrando a’r argymhellion Y Comisiwn ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, rhywbeth y mae hi’n ei ddisgrifio fel “game changer.”
“Efo Starmer, yn anffodus dyw’r drws ddim yn agor o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan, ond mae rhaid i ni barhau i graffu.
“Dw i yn bersonol yn cytuno gyda phopeth o fewn yr adroddiad gan y comisiwn yng Nghymru, a dw i wedi perswadio’r Pwyllgor Materion Cymreig i wneud cwpl o sesiynau ar y ddogfen.”
Yn yr adroddiad terfynol, dywedodd y comisiwn bod annibyniaeth i Gymru yn opsiwn hyfyw a chytunodd Beth Winter bod “rhaid i annibyniaeth fod ar y bwrdd” tra’n trafod dyfodol Cymru.
Mae dyletswydd ar aelodau Llafur yn ei sefyllfa hi, meddai, i “wthio a chraffu” Starmer ar faterion fel dyfodol cyfansoddiadol Cymru a pholisïau lles, megis y cap budd-dal ar ddau blentyn.
Mae’r ffaith bod Beth Winter yn sôn mwy am graffu na chydweithio ar waith arweinydd ei phlaid ei hun yn dangos pa mor gyfyngedig yw strategaeth fewnol Starmer.
Bydd rhaid i bobl yng Nghymru aros i weld yn union beth fydd Starmer yn ei gynnig sydd yn wahanol i’r Torïaid.
Parhau i chwifio’r faner sosialaidd
Pan ddaw’r etholiad cyffredinol, fydd Beth Winter ddim yn sefyll, ond mae yn bendant nad dyma fydd diwedd ei chyfraniad gwleidyddol i Gymru.
Mae hi’n disgrifio’r anghyfiawnder mae hi’n ei weld, megis banciau bwyd, ac yn fwy diweddar, banciau gwres, fel rhywbeth sydd yn rhoi’r “tân yn y bol” sydd yn ei hysgogi i barhau i ymladd dros hawliau a bywydau gwell i bobl ddifreintiedig.
Cyn troi at wleidydda, bu Beth Winter yn rhedeg clwb ieuenctid a gweithio mewn banc bwyd.
“Mae’r ffaith bod gymaint o anghyfiawnder a thlodi yn gwneud fi’n grac, ac mae rhaid cadw’r fire in the belly i wneud rhywbeth am y peth.
“Y Deyrnas Unedig yw’r chweched wlad fwyaf cyfoethog yn y byd. Mae gennym ni ddigon o arian i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, felly mae yn rhaid i ni fel sosialwyr barhau.
“Dwi am barhau, dim ots beth sy’n digwydd efo’r sefyllfa gyda’r etholaeth oherwydd mae gwleidyddiaeth yn fy ngwaed i ers i fod yn blentyn.”
Oes yna fwriad o sefyll i fod yn Aelod o Senedd Cymru yn y dyfodol, a hynny efallai ar ran plaid wahanol i Lafur?
“Sa i’n mynd i stopio cynrychioli fy nghymuned, ond pa siâp mae’n mynd i gymryd, sa i’n gwybod.
“Rwy’n edrych ar opsiynau ac yn hel trafodaethau efo pobl, ond yn onest, dw i ddim yn gwybod.”
Does ddim byd yn sicr mewn gwleidyddiaeth, ond o sgwrsio gydag aelodau Plaid Cymru, bydd yn sicr croeso brwd i Beth Winter os fydd hi’n dewis gadael y Blaid Lafur yn dilyn yr etholiad cyffredinol.