Ro’n i’n un a gefnogodd y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru pan ddaeth i rym ar ôl yr etholiad diwethaf yn 2021. Roedd yn rhaglen gadarn, uchelgeisiol a theg, ac roedd y gobeithion ar ei gyfer yn fawr. Ac yn wir, cyflawnwyd nifer o bethau cadarnhaol, nid lleiaf prydau am ddim mewn ysgolion. Araf iawn, ar y llaw arall, y bu rhannau eraill ohoni fel y dreth dwristiaeth neu’r Bil Addysg Gymraeg.