Daeth bron i ddwy fil ynghyd i weld Clwb Pêl-droed Caernarfon yn ennill eu lle ar y llwyfan Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed.

Fe lwyddodd y Caneris i drechu Penybont 3-1 gyda goliau gan Louis Lloyd, Zack Clarke a Sion Bradley o Flaenau Ffestiniog.

Ond yn rhyfedd ddigon, bachgen o Gaernarfon mewn crys Penybont sgoriodd gôl orau’r ornest, sef Ryan Reynolds. Gôl gysur i’r Cofi yn erbyn y Caneris!