Mae gan Erin ag Efa feltiau du mewn karate, ond maen nhw hefyd yn pampro genethod mewn partis girly

Dwy chwaer yn eu harddegau ydy perchnogion newydd cwmni sy’n cynnal partïon pampro i blant.

Mae criw Parti Pinc yn gwneud gwalltiau, ewinedd a cholur genethod ifanc yng Ngwynedd a Môn ers dros ddeng mlynedd, ond dwy o chwiorydd 15 ac 16 oed yw’r rheolwyr newydd.