Mae cefnogwyr yn dweud bod yr addewidion am “greu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol,” tra bo’r gwrthwynebwyr yn gofyn “ai dyma’r oll sydd gen ti mêt?”

Tra’r oedd Vaughan Gething a Llafur Cymru ar gychwyn eu hopera sebon yn y Senedd wythnos diwethaf, mi’r oedd yr arweinydd Prydeinig Keir Starmer yng nghanol araith ei lansiad meddal ar gyfer ymgyrch etholiad cyffredinol y blaid yn Thurrock, Essex.