Annheilwng ydi’r honiad mai hiliaeth sydd wrth wraidd y pwyso caled ar Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething.

Efallai ei fod yn wir am y Daily Mail ond does dim arlliw o dystiolaeth fod hynny’n wir am gyrff newyddiadurol fel nation.cymru na’r rhan fwya’ o wleidyddion chwaith.