“Y Cymry, pwy ydyn ni a beth ydyn ni’n ei gredu?” Dyna’r cwestiwn a archwilir yn Ni yw’r Cymry.

Treulia saith o Gymry, neu Gymry Cymraeg i fod yn fanwl gywir, wythnos gyda’i gilydd mewn tŷ ar arfordir Sir Benfro; “cyfle i rannu barn a cheisio ateb rhai o’r cwestiynau mawr”. Os yw’r lleoliad yn gyfarwydd, dw i’n eithaf siŵr iddo gael ei ddefnyddio ar un o gyfresi 35 Diwrnod. Lleoliad hyfryd yn wir, ond braidd yn anghydnaws â’r hyn sy’n digwydd ynddo o bosib.