Mae hi’n ddiwrnod afrealistig o hyfryd. Y math o haul crasboeth, clên sydd ond yn bodoli mewn atgofion celwyddog. Dwi’n teimlo’r pnawn yn nesáu fatha storm, ond does yna’r un cwmwl yn dod i’r awyr, dim arlliw o unrhyw beth heblaw perffeithrwydd yma heddiw.

Am unwaith, dwi ddim eisio mynd i’r pyb.