Yn eich nodiadau golygyddol mewn rhifyn diweddar (‘Da iawn Jonathan Edwards’, Golwg 02/05/24) rydych yn ymdrin â mater datblygiadau tai: mater allweddol i ddyfodol y Gymraeg. Rhaid sicrhau, a hynny ar frys, nad yw datblygiadau tai yn tanseilio ein hiaith yn gymunedol.

Rhoddwyd sylw gennych i ddatblygiad tai arfaethedig niweidiol ym Mhorthyrhyd, Sir Gaerfyrddin, a gellid cyfeirio hefyd at ddatblygiadau o’r fath yng Ngwalchmai, Môn; ym Motwnnog, Gwynedd; ac at sawl enghraifft yng Ngheredigion.

Ymddengys mai dyma ddiffygion amlycaf y datblygiadau hyn:

  1. Bod niferoedd y tai a godir y tu hwnt i’r angen a’r gofyn cymunedol.

2. Bod Asesiadau Ardrawiad Iaith (er mwyn mesur effaith debygol datblygiadau ar sefyllfa’r Gymraeg) yn cael eu darparu gan gyrff (ymgynghorwyr masnachol, gan amlaf) ar gais y datblygwr, a’r asesiadau hynny wedi’u llunio gan unigolion heb gymhwyster penodol mewn Cynllunio Iaith neu Gymdeithaseg Iaith.

3. Nad oes yn adrannau cynllunio cynghorau sir yr arbenigedd mewn Cynllunio Iaith a’u galluogai i arfarnu dilysrwydd casgliadau yr Asesiadau Ardrawiad Iaith hynny.

Fel y gwyddom, Plaid Cymru sy’n rheoli’r pedwar cyngor sir dan sylw. O fewn eu terfynau hwy mae’r cymunedau sydd â’r canrannau uchaf o drigolion sy’n medru’r Gymraeg, a’r cymunedau hynny sydd o dan fygythiad y datblygiadau anaddas a niweidiol hyn. Y cwestiwn y mae’n rhaid ei ofyn yw: sut y mae Plaid Cymru yn caniatáu i hyn ddigwydd? Wedi’r cyfan, y cynghorau hyn sy’n gyfrifol am lunio Cynlluniau Datblygu Lleol (sirol) a’r polisïau sy’n ymwneud â’r materion uchod.

Mae hi’n amlwg, wrth gwrs, fod bai ar bolisïau (a diffyg polisïau) presennol Llywodraeth Cymru ym maes tai a chynllunio, ond yr un mor amlwg yw’r ffaith nad oes gan ein cynghorau sir afael ar y sefyllfa, nac yn defnyddio i’r eithaf y grymoedd sydd ganddynt. Os yw’r Gymraeg i barhau’n iaith gymunedol, fyw, yna dylai cywiro’r sefyllfa hon fod yn flaenoriaeth.

 

Howard Huws

Cylch yr Iaith