Wrth weithio ar dair rhaglen radio yn ystod yr wythnosau diwetha’, mi ddaeth hi’n amlwg bod yna un llinyn amlwg yn cordeddu trwy’r tair.
Rhaglenni hanesyddol oedden nhw, yn troi o gwmpas tair elfen – dŵr, cerrig a choed – ac ym mhob un, roedd yna straeon am ecsploetio, am adnoddau Cymru’n cael eu defnyddio i wasanaethu cyfoethogion, neu Loegr, neu’r ddau.